Sioned Wiliam

Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a chomisiynydd comedi Radio 4, Sioned Wiliam. Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Sioned yn y Bari, a sut mae wedi llwyddo i fagu mab sy'n Gymro Cymraeg yng nghanol Llundain. Clywn am yrfa ddisglair Sioned yn gweithio gyda mawrion y byd comedi o Steve Coogan i Jonathan Ross, ac ar rai o gyfresi comedi ac adloniant fwyaf dylanwadol y degawdau diwethaf, ynghyd a'r nofelau Cymraeg mae wedi bod yn 'sgwennu yn y blynyddoedd diweddar.

Om Podcasten

Elis James sy'n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd, ac i bersonoliaethau gwahanol…