Jeremy Miles: greddf yntau gwaith?

Mae Esgusodwch Fi yn ôl! Yn ymuno ag Iestyn a Meilir ym mhennod gyntaf yr ail gyfres, mae Jeremy Miles (fo/fe), Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru.Fe glywn am brofiadau ffurfiannol ei fagwraeth ym Mhontarddulais a dylanwad hynny ar ei waith fel gwleidydd. Yn y sgwrs ddadlennol yma mae'n rhannu sut mae ei hunaniaeth a'i rywioldeb wedi cyfrannu at ei waith fel gwleidydd a'i obeithion a'i bryderon at y dyfodol.

Om Podcasten

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.