Wyt ti'n gwybod dy statws?

A hithau'n bennod olaf y gyfres yma o'r podlediad, roedden ni eisiau trafod pwnc ychydig bach fwy arwyddocaol, sef HIV/AIDS. Mae'n afiechyd sydd dal i effeithio nifer o bobl yma yng Nghymru, ac yn ôl ein gwestai ni heddiw sef Uwch Gynghorydd polisi grwp trawsbleidiol HIV/AIDS San Steffan, Mark Lewis, mae yna lot o waith i'w wneud eto i addysgu pobl am yr afiechyd er mwyn rhwystro trosglwyddiadau newydd o'r firws.Os hoffech gymorth neu fwy o wybodaeth am HIV/AIDS yna ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, y Terrence Higgins Trust neu cysylltwch â'ch meddyg teulu.Diolch o galon am wrando ar y gyfres,Iestyn a Meilir :)

Om Podcasten

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.