1: Mark Lewis Jones

I ddechrau’r ail gyfres fe fydd Elin Fflur yn ymweld â’r actor a’r rhedwr marathon ultra, Mark Lewis Jones yng ngardd ei gartref yng Nghaerdydd. Gyda thanllwyth o dân a’r sêr yn gwmni fe fydd Elin yn cael hanes ei yrfa, o Con Passionate i’r Crown, mae Mark Lewis Jones wedi swyno gwylwyr ar hyd y degawdau. Yn y sgwrs estynedig yma fe gawn wybod mwy am ei fagwraeth yn Rhosllanerchrugog, dylanwad unigiolion allweddol o’i gyn athrawes ysgol i Anthony Hopkins a dod i adnabod Mark y wyneb tu ôl i’r holl gymeriadau. We kick-off the second series as Elin Fflur visits the actor and the ultra marathon runner, Mark Lewis Jones at his home in Cardiff. In this extended chat we’ll learn more about the man who’s been at the forefront of some of the most watched dramas and films of all time, from Netflix’s The Crown to the cult classic, Star Wars.

Om Podcasten

Bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!), ac yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn'. Mae cyfnod y pandemig wedi newid ein byd am byth, ond yr hyn fydd yn aros yn fytholwyrdd – cwmni gwerth chweil a sgwrsio difyr. Presenter Elin Fflur visits the gardens of some of Wales’ most well-known faces during sunset. Heart-warming, softly revelatory, sometimes humorous but always insightful this simplicity has become the secret of its success. The series has captured a nation’s mood, a gentle escapism, as many of us have had to face difficult lives during this time. The pandemic has changed our lives forever, but one thing that will remain everlasting – a good old chat!