3: Leah Owen

Yn y bennod hon mae Elin Fflur yn ymweld â Leah Owen yng ngardd ei chartref ym Mhrion, Sir Ddinbych. Er ei bod wedi hyfforddi cenedlaethau o blant Dinbych a’i gwreiddiau bellach yn nwfn yn yr ardal, mae’n parhau i fod yn “hogan o Fôn” yn ei chalon. O flaen tanllwyth o dân mae’r atgofion yn llifo ac fe ddown ni i nabod Leah, y fam, yr hyfforddwraig a’r gantores sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o blant Sir Ddinbych a Môn. In this episode Elin visits singer, composer, music teacher and choir conductor Leah Owen. Leah, who originates from Anglesey, but nowdays lives in Prion, Denbigh, chats about her upbrining, competing from a young age at the National Eisteddfod. She also discusses how she managed a busy family life and being responsible for training and leading numerous successful choirs and indivdual singers.

Om Podcasten

Bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!), ac yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn'. Mae cyfnod y pandemig wedi newid ein byd am byth, ond yr hyn fydd yn aros yn fytholwyrdd – cwmni gwerth chweil a sgwrsio difyr. Presenter Elin Fflur visits the gardens of some of Wales’ most well-known faces during sunset. Heart-warming, softly revelatory, sometimes humorous but always insightful this simplicity has become the secret of its success. The series has captured a nation’s mood, a gentle escapism, as many of us have had to face difficult lives during this time. The pandemic has changed our lives forever, but one thing that will remain everlasting – a good old chat!