5: Sarra Elgan

Ar noson aeafol oer fe gawn ni gwmni cynnes y gyflwynwraig, Sarra Elgan, draw yng ngardd ei chartref ym Mro Morgannwg. Dros wydriad neu ddau fe gawn ni glywed sut mae’r byd rygbi wedi newid ei bywyd ers yn ifanc iawn – yn ferch i gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, bellach yn briod â Hyfforddwr enwog, ac yn Fam i blant sydd hefyd wrth eu boddau â’r gêm... a hefyd yn gyflwynydd rygbi uchel iawn ei pharch, does ryfedd nad yw’r bêl hirgron fyth ymhell o galon Sarra. Wrth i’r haul fynd lawr bydd Elin a Sarra yn hel atgofion am raglenni cynnar Planed Plant, y grŵp pop Cic ac yn trafod rhai o’r heriau a’r rhwystrau sydd wedi bod ar hyd y daith i ddod yn un o gyflwynwyr rygbi poblogaidd BT Sport. Hynny i gyd gyda dos enfawr o hwyl a chwerthin. On a cold evening in the Vale of Glamorgan, Elin chats to presenter Sarra Elgan. Daughter to former Wales rugby international Elgan Rees and married to Simon Easterby the coach for the Irish national team - rugby is in her blood and so it is perhaps no surprise that it has taken up most of her career in broadcasting. BT Sport presenter Sarra speaks about her experience of working in a male environment and some of the challenges she has faced along the way as well as reminisce about her early days in Children’s Television and being a pop star!

Om Podcasten

Bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!), ac yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn'. Mae cyfnod y pandemig wedi newid ein byd am byth, ond yr hyn fydd yn aros yn fytholwyrdd – cwmni gwerth chweil a sgwrsio difyr. Presenter Elin Fflur visits the gardens of some of Wales’ most well-known faces during sunset. Heart-warming, softly revelatory, sometimes humorous but always insightful this simplicity has become the secret of its success. The series has captured a nation’s mood, a gentle escapism, as many of us have had to face difficult lives during this time. The pandemic has changed our lives forever, but one thing that will remain everlasting – a good old chat!