9: Ian Gwyn Hughes

Yn rhaglen ola’r gyfres fe fydd Elin Fflur yn teithio i’r brifddinas ac i ardd un o leisiau enwoca’ y byd pêl-droed o ddiwedd y 90au ymlaen, y gŵr sydd bellach yn Bennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes. O flaen tanllwyth o dân a goleuadau Caerdydd yn goleuo’r nos cawn glywed am wireddu breuddwyd plentyndod o sylwebu ar Match of The Day, cawn hefyd glywed am y salwch a ddaeth i lorio ei fyd pan yn ei ugeiniau cynnar, ac wrth gwrs fe fyddwn yn ail-fyw holl ramant Pencampwriaeth Ewros 2016. In the very last episode Elin will be heading towards Cardiff and to the garden of one of the most famous voices in the history of Welsh and Premier League football, Ian Gwyn Hughes. In front of a roaring fire and Cardiff’s skyline as a backdrop we’ll hear of his days as a commentator on Match of The Day, we’ll also hear of the illness that floored his world in his youth, and of course we’ll hear of his current role as the FAW’s Head of Public Affairs.

Om Podcasten

Bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!), ac yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn'. Mae cyfnod y pandemig wedi newid ein byd am byth, ond yr hyn fydd yn aros yn fytholwyrdd – cwmni gwerth chweil a sgwrsio difyr. Presenter Elin Fflur visits the gardens of some of Wales’ most well-known faces during sunset. Heart-warming, softly revelatory, sometimes humorous but always insightful this simplicity has become the secret of its success. The series has captured a nation’s mood, a gentle escapism, as many of us have had to face difficult lives during this time. The pandemic has changed our lives forever, but one thing that will remain everlasting – a good old chat!